Gan Chloe Peck ac Ellie Roxburgh (River Action)
Wrth i ni yrru i lawr i Sir Benfro yn gynnar ym mis Chwefror, roedd yna deimlad o obaith yn yr awyr, gyda’r cennin Pedr melyn llachar cyntaf i’w gweld yn y cloddiau a’r haul yn adlewyrchu oddi ar fôr gwyllt a garw. Roedd mynd am dro ar draeth caregog yng Nghymru yn sicr yn apelio, ond roedden ni yno ar gyfer mwy na dim ond y golygfeydd. Diben y daith oedd gweld a yw’r nodau uchelgeisiol o gydbwyso maethynnau a ffermio adfywiol yn dal dŵr mewn sefyllfa ymarferol ac fel rhan o weithgareddau bob dydd fferm laeth.

Afon Dan Bwysau
Mae’r Cleddau wrth galon tirwedd Sir Benfro, gyda’r Cleddau Ddu a’r Cleddau Wen yn uno cyn llifo i aber dwfn. Mae’n rhan hanfodol o’r ardal, ond yn wynebu pwysau sylweddol ar hyn o bryd. Mae llygredd amaethyddol yn parhau i fod yn un o’r achosion mwyaf o bwysau ar ein hafonydd ledled y DU, a dydy’r Cleddau ddim yn eithriad. Gall maethynnau o wrtaith a thail lifo i’r dyfrffyrdd hyn, gan gyfrannu at ddifrod ecolegol a dirywiad yn ansawdd y dŵr.
Roedden ni yn yr ardal yn benodol i siarad am lygredd maethynnau yn y dalgylch a sut mae ffermwyr eisoes yn gwneud newidiadau ymarferol i arferion rheoli ffermydd, gyda chefnogaeth gan y cadwyni cyflenwi, i wneud gwahaniaeth. Roedden ni hefyd yno i edrych ar yr hyn sydd angen ei wneud. Ar lawr gwlad, mae hyn yn cael ei amlygu gan y newid yn y ffordd mae’r tir a buchesi yn cael eu rheoli. Yn bwysicaf oll o bosib, fe wnaethon ni weld sut mae ffermio “ystyriol o afonydd” yn canolbwyntio ar reoli pori. Drwy symud i ffwrdd o ddulliau dwys traddodiadol tuag at systemau fel pori er lles cadwraeth, mae’n haws i ffermwyr amddiffyn y pridd a’r dŵr sy’n rhedeg drwyddo.
Trefnwyd ein taith gan Ric Cooper, asgwrn cefn ac arweinydd Prosiect y Cleddau. Mae Ric yn un o’r ymgyrchwyr hynny sy’n gallu ymdrin â data cymhleth ar faethynnau un funud, cyn troi ei law at gydlynu gwirfoddolwyr gwyddor dinasyddion, ac yna trafod agweddau ymarferol gyda ffermwyr y funud nesaf. Oherwydd ei fod yn llais lleol mor uchel ei barch, roedd yn gallu’n cyfeirio ni at amrywiaeth eang o safbwyntiau ledled y dalgylch.
O Borthi Dan Do i Dir Pori Agored
Drwy gysylltiadau Ric, trefnwyd i ni gyfarfod â’r ffermwyr lleol Mike Smith ac Andrew Rees fel y gallen ni fynd i lygad y ffynnon a gweld sut maen nhw’n rhoi mesurau ymarferol ar waith i leihau eu heffaith ar yr amgylchedd. Mae’r ddau yn rhan o First Milk, cwmni llaeth cydweithredol ym mherchnogaeth ffermwyr Prydain sy’n canolbwyntio ar systemau adfywiol seiliedig ar bori. Mae’n rhaid i aelodau First Milk ddarparu mynediad at dir pori am o leiaf 120 diwrnod y flwyddyn, gan eirioli dros bori fel dewis amgen hanfodol i borthi dwys dan do.
Mae manteision y dull hwn wedi’u gwreiddio yn y cylch maethynnau lleol. Mewn systemau dan do, mae gwartheg yn aml yn cael eu porthi â bwyd sy’n uchel mewn ffosffadau a nitradau, sy’n aml wedi’i gynhyrchu dramor a’i fewnforio. Mae hyn yn cyflwyno maethynnau “newydd” i’r amgylchedd lleol. Ar y llaw arall, pan fydd gwartheg yn pori ar borfa, maen nhw’n bwyta maethynnau sydd eisoes yn bresennol yn y pridd lleol. Pan fydd y gwartheg yn cynhyrchu slyri, mae’n golygu bod y maethynnau sydd ynddo yn lleol i’r ardal benodol honno. Drwy wasgaru’r slyri hwn ar yr un tir amaethyddol, mae’n cynnal y cydbwysedd maethynnau yn y tir yn hytrach na’i orlethu. Mae’r system dolen gaeedig hon yn hanfodol i amddiffyn ein hafonydd rhag y maethynnau mewn dŵr ffo sy’n arwain at ewtroffigedd – lle mae gormodedd o faethynnau yn achosi gordyfiant algâu, a hynny’n mygu ocsigen ac yn niweidio ecoleg yr afon.
Ond mae mwy i’r gwaith o bontio i ffermio sy’n ystyriol o afonydd na phori yn unig. Trafodwyd amrywiaeth o ddulliau eraill, megis gwell rheolaeth ar faethynnau ac ar wasgaru tail a gwrtaith, sydd yn eu tro’n lleihau’r risg o ddŵr ffo yn llifo i’r Cleddau yn sylweddol. Yn Moor Farm, mae Andrew wedi troi’r model traddodiadol ar ei ben drwy ostwng y defnydd o wrtaith a chemegion yn sylweddol. Mae’n credu bod hynny’n fwy na rhywbeth sy’n “ddymunol” o safbwynt amgylcheddol yn unig; gall cam o’r fath gynnal neu hyd yn oed wella’r elw ac adfer iechyd y tir ar yr un pryd.
Cydweithio ar Draws y Gadwyn Gyflenwi
Fe wnaeth Ric ein cyflwyno hefyd i Christopher ac Emma yn Puffin Produce, cwmni cyflenwi cynnyrch ffres mwyaf Cymru a chydberchnogion Hufenfa Sir Benfro. Mae’r rôl ddeuol hon yn eu rhoi mewn sefyllfa unigryw i ddylanwadu ar gaeau a llaethdai. Maen nhw’n defnyddio’r Rhwydweithiau Mentrau Tirwedd (LENs) i bontio’r bwlch rhwng cyflenwi masnachol ac iechyd yr amgylchedd.
Drwy’r rhwydwaith hwn, maen nhw’n cyd-ariannu atebion ar sail natur sy’n cael eu cynllunio gan y ffermwyr eu hunain. Mae’n ddull pwrpasol: yn hytrach na mandad o’r brig i lawr, mae’n grymuso pob busnes fferm i gynnig yr arferion adfywio penodol a fydd yn diogelu daearyddiaeth unigryw yr ardal leol honno orau.

Y Darlun Mawr: Dyfodol i’r Cleddau
Wrth i ni adael Sir Benfro, roedd yn amlwg bod amddiffyn ein hafonydd yn gofyn am weithredu cydlynol ar draws y system fwyd a ffermio gyfan, o’r ffermwyr a’u tir pori i’r cwmnïau cydweithredol, y manwerthwyr, y rheoleiddwyr a’r llunwyr polisi. Yn galonogol, yn ein sgyrsiau gydag arweinwyr fel Andrew Rees, Mike Smith a’r tîm yn First Milk, gwelsom fod llawer o ffermwyr eisoes yn gweithio i fod yn rhan o’r ateb.
Fodd bynnag, bydd datblygu’r ymdrechion ar raddfa ehangach yn gofyn am fwy na dim ond uchelgais amgylcheddol. Gwelsom fod pontio i ffermio adfywiol yn aml yn cael ei ystyried fel risg sy’n cymryd sawl blwyddyn i’w gwireddu. Er mwyn llwyddo, mae’n rhaid i ni ail-fframio’r ddadl, a dangos y gall ffermio sy’n ystyriol o afonydd fod yn economaidd hyfyw.
Mae ymroddiad amlwg Puffin Produce, First Milk a rhwydwaith gwyddor dinasyddion Ric Cooper yn profi bod newid go iawn yn bosib pan fydd ymddiriedaeth leol a chefnogaeth y gadwyn gyflenwi yn cyd-fynd law yn llaw. Bydd cefnogi a datblygu’r ymdrechion cyfunol hyn ar raddfa ehangach yn hanfodol os ydyn ni am adfer a diogelu iechyd ein hafonydd ar gyfer y cenedlaethau i ddod.